SL(6)182 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 (“yRheoliadau hyn”) yn diwygio Deddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”).

Diben y Rheoliadau hyn yw estyn dyddiad dod i ben darpariaethau penodol yn y Ddeddf i ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022. Byddent yn dod i ben fel arall ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Mawrth 2022.

Mae adran 89(1) o’r Ddeddf yn darparu bod y Ddeddf yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd gan ddechrau â’r diwrnod y caiff ei phasio, yn ddarostyngedig i isadran (2) o’r adran honno ac adran 90 o’r Ddeddf. Mae adran 90(2) o’r Ddeddf yn darparu y caiff awdurdod cenedlaethol perthnasol, drwy reoliadau, newid dyddiad dod i ben y darpariaethau yn y Ddeddf. Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol ar gyfer Cymru mewn perthynas â darpariaethau yn y Ddeddf sy’n gymwys o ran Cymru ac a fyddai’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. 

Y darpariaethau perthnasol sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022, i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yw:

·         Adran 38(1) ac Atodlen 17 – Parhad dros dro: addysg, hyfforddiant a gofal plant (Cymru)

Mae'r ddarpariaeth hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddiadau parhad dros dro i sefydliadau addysgol, darparwyr gofal plant cofrestredig ac awdurdodau lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd camau rhesymol – neu gamau penodol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn rhesymol – mewn cysylltiad â darparu addysg, hyfforddiant, gofal plant (neu wasanaethau sy'n ymwneud â'r rhain), neu wasanaethau a chyfleusterau ategol, am gyfnod penodedig. 

Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiadau i ddatgymhwyso neu addasu, am gyfnod o un mis, unrhyw ofynion statudol penodol mewn addysg a gofal plant, pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod dyroddi'r hysbysiad yn gam priodol a chymesur o dan yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud ag achosion o'r coronafeirws neu ei drosglwyddo.

Er nad oes unrhyw ofyniad i ymestyn y darpariaethau ar gyfer gofal plant na’r darpariaethau ar gyfer Addysg Uwch neu Addysg Bellach, efallai y bydd angen ystyried pwerau i ysgolion anghymhwyso neu addasu rhai gofynion os bydd tarfu sylweddol o ganlyniad i COVID yn ystod y flwyddyn academaidd hon.

·         Adran 82 - Tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: amddiffyniad rhag fforffedu ac ati.

Mae adran 82 yn gwneud darpariaeth na chaniateir gorfodi hawl i ailfynediad neu fforffediad, o dan denantiaeth fusnes berthnasol, am beidio â thalu rhent, drwy weithredu neu fel arall, yn ystod y “cyfnod perthnasol”. Un o’r rhesymau dros gyflwyno’r moratoriwm oedd i gyfyngu ar yr effaith sylweddol ar fusnesau yn sgil y gyfres o ymyriadau a chyfyngiadau a osodwyd ar economi Cymru drwy gydol y pandemig.  Cafodd y darpariaethau hyn eu cynnwys fel ymyriad i fynd i'r afael â'r materion – yn enwedig llif arian.

Diwedd y cyfnod perthnasol ar gyfer y ddarpariaeth hon oedd 30 Mehefin 2020 i ddechrau.  Ers hynny mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i estyn y moratoriwm sawl gwaith. Y tro diwethaf, cafodd y “cyfnod perthnasol” mewn perthynas â Chymru ei estyn tan 25 Mawrth 2022 gan Reoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif. 3) 2021. Mae hyn wedi darparu amddiffyniad i denantiaid busnes perthnasol yn ogystal â darparu amser ar gyfer datblygu'r Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) ("y Bil”).

Y cynnig i ymestyn Adran 82 yw rhoi cyfle parhaus i Weinidogion Cymru ymestyn y cyfnod perthnasol os ystyrir bod angen hynny yng nghyd-destun y Bil.

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Mae’n rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

Darperir ar gyfer y weithdrefn ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf gan adrannau 94(2) a (6) o Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Er bod y Ddeddf yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth yn credu bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu y caniateir yr ymyrraeth gan fod nod dilys i’r ymyrraeth honno, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth hefyd yn credu bod y Rheoliadau yn gymesur.

Mae Erthygl 1 o'r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo) ac Erthygl 2 o'r Protocol Cyntaf (hawl i addysg) yn erthyglau allweddol o'r ECHR sy'n cael eu cynnwys gan ddarpariaethau'r Ddeddf sy'n cael eu hymestyn.

Mae pob un o'r rhain yn hawliau amodol, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os yw hynny’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd.  Rhaid cyfiawnhau unrhyw gyfryw gyfyngiadau a gofynion ar sail y ffaith eu bod yn anelu at gyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd a'u bod yn gymesur. Rhaid i unrhyw achos o ymyrryd â'r hawliau hyn hefyd gael ei gydbwyso â rhwymedigaethau cadarnhaol y Wladwriaeth o dan Erthygl 2 (hawl i fywyd). Mae addasu darpariaethau'r Ddeddf drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad coronafeirws. Mae'n cydbwyso'r angen i barhau i ymateb i'r bygythiad a berir gan y coronafeirws mewn ffordd briodol â hawliau unigolion a busnesau, mewn ffordd sy'n parhau i fod yn gymesur â'r angen i ostwng cyfraddau trosglwyddo'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

24 Mawrth 2022